Cofnodion - Y Pwyllgor Busnes


Lleoliad:

Committee Room 4 - Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Mawrth, 18 Mawrth 2025

Amser: 09.01 - 10.06
 


Preifat

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Pwyllgor:

Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd)

Paul Davies AS

Heledd Fychan AS

Jane Hutt AS

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Yan Thomas (Dirprwy Glerc)

Eraill yn bresennol

David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Matthew Richards, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Dros Dro

Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth

Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Helen Carey, Llywodraeth Cymru

 

<AI1>

1       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.

</AI1>

<AI2>

2       Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

</AI2>

<AI3>

3       Trefn Busnes

</AI3>

<AI4>

3.1   Busnes yr wythnos hon

Busnes yr Wythnos Hon

 

Dydd Mawrth

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.45pm.

 

Dydd Mercher

 

Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:

 

·         Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.45pm.

 

</AI4>

<AI5>

3.2   Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 25 Mawrth 2025

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Cynhwysiant Digidol (45 munud) - wedi'i aildrefnu o 1 Ebrill

·         Dadl: Teithio gan Ddysgwyr (60 munud) - aildrefnwyd

 

Dydd Mawrth 1 Ebrill 2025

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Diweddariad ar gynhwysiant digidol – cam nesaf (45 munud) aildrefnwyd i 25 Mawrth

·         Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) 2025 (15 5 munud)

·         Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy'n Colli Addysg) (Peilot) (Cymru) 2025 (15 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Data (Defnydd a Mynediad) (15 munud) gohiriwyd

 

Dychwelodd y Pwyllgor Busnes at fater amserlennu trafodion Cyfnod 3 yn dilyn toriad y Pasg. Cadarnhaodd y Trefnydd ei bod bellach yn fwriad gan y Llywodraeth i drefnu trafodion Cyfnod 3 ar Fil y Gymraeg ac Addysg ddydd Mawrth 6 Mai a Chyfnod 3 y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) ddydd Mawrth 13 Mai.

 

Gofynnodd Heledd Fychan a fydd datganiad llafar yn cael ei gyflwyno i nodi deng mlynedd ers Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015. Dywedodd y Trefnydd y byddai'n ystyried y mater.

 

</AI5>

<AI6>

3.3   Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cytunwyd i drefnu’r eitemau a ganlyn ar Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mercher 30 Ebrill 2025 -

·      Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)

·      Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Cefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig (60 munud)

·      Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·      Dadl fer (30 munud)

 

 

</AI6>

<AI7>

3.4   Cynigion Deddfwriaethol yr Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion a chytunodd i amserlennu’r cynigion a ganlyn:

 

26 Mawrth - Mick Antoniw

NNDM8799 

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar fynd i'r afael â thaflu sbwriel a thipio anghyfreithlon yng Nghymru. 

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai: 

a) cryfhau a diwygio'r gyfraith ar dipio anghyfreithlon yng Nghymru mewn perthynas â’r canlynol: 

i) cosbau ariannol ac anariannol (megis atafaelu trwydded yrru neu gerbyd); 

ii) y cap ar hysbysiadau cosb benodedig; 

iii) gweithgarwch gorfodi; a 

iv) safoni methodolegau cofnodi ac adrodd data awdurdodau lleol. 

b) cryfhau a diwygio'r gyfraith ar daflu sbwriel yng Nghymru mewn perthynas â’r canlynol: 

i) nodi taflu sbwriel fel ymddygiad gwrthgymdeithasol; 

ii) cosbau ariannol ac anariannol (megis darparu 'cyrsiau ymwybyddiaeth sbwriel' i droseddwyr); a 

iii)  cyfrifoldebau lleihau sbwriel manwerthwyr a chyflenwyr eraill. 

c) cyflwyno prosesau sy'n ei gwneud yn haws i aelwydydd gael gwared ar wastraff. 

 

30 Ebrill- Mabon ap Gwynfor

NNDM8806 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i ymgorffori yng nghyfraith Cymru lefelau staffio diogel gofynnol ar gyfer deintyddion a gomisiynir gan y GIG. 

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai: 

a) sefydlu llinell sylfaen genedlaethol ofynnol ar gyfer staff deintyddiaeth ledled Cymru, yn seiliedig ar anghenion y boblogaeth o ran iechyd y geg; 

b) cyflwyno dyletswydd ar ymddiriedolaethau a byrddau iechyd lleol yng Nghymru i gyfrifo a chymryd pob cam rhesymol i gynnal lefelau staffio deintyddiaeth a hysbysu cleifion o'r lefel; 

c) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru ac awdurdodau cyhoeddus i wireddu’n raddol hawl holl ddinasyddion Cymru i gael mynediad at wasanaethau deintyddiaeth a gomisiynir gan y GIG; 

d) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddatblygu cynllun gweithlu i gefnogi a chynnal proffesiwn deintyddiaeth y GIG yng Nghymru; ac 

e) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi adroddiadau cynnydd blynyddol ar y cynllun hwnnw, yn ogystal â datganiadau cysylltiedig yn y Senedd. 

 

 

 

</AI7>

<AI8>

4       Deddfwriaeth

</AI8>

<AI9>

4.1   Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch cydgrynhoi cyfraith gynllunio

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a gofynnodd i swyddogion ddarparu cyngor pellach ar y goblygiadau tebygol ar gyfer yr amser sydd ar gael i graffu ar Filiau cydgrynhoi ar gyfraith gynllunio sy'n deillio o fwriad presennol y Llywodraeth i gyflwyno'r Biliau’n ffurfiol yn dilyn toriad yr haf 2025.

 

 

</AI9>

<AI10>

4.2   Gohebiaeth ynghylch y Bil Gwasanaethau Bysiau (Rhif 2)

 

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyrau.

 

</AI10>

<AI11>

4.3   Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Trafododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i:

 

 

</AI11>

<AI12>

5       Pwyllgorau

</AI12>

<AI13>

5.1   Gohebiaeth gan Gyd-gadeiryddion Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru ynghylch Rheol Sefydlog Dros Dro 35

Trafododd y Pwyllgor Busnes ohebiaeth bellach gan Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru ynghylch newidiadau posibl i’r Rheolau Sefydlog yn gysylltiedig â’r Pwyllgor hwnnw, ynghylch llwon a chadarnhad. 

 

Nododd Paul Davies a Heledd Fychan eu cefnogaeth i gynnig gwelliant i'r Rheolau Sefydlog i ddarparu pŵer yn ôl disgresiwn i Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru ofyn i dystion gymryd llw neu gadarnhad cyn darparu tystiolaeth lafar.  Mynegodd y Trefnydd bryder am oblygiadau posibl pŵer o'r fath i dystion a gwaith y Pwyllgor, a dywedodd nad oedd yn cefnogi newid o'r fath i'r Rheolau Sefydlog yn cael ei gynnig gan y Pwyllgor Busnes.

 

Felly, nid oedd mwyafrif y Pwyllgor Busnes yn cefnogi datblygu cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog sy'n gysylltiedig â Phwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru er mwyn darparu pŵer yn ôl disgresiwn sy'n ei alluogi i’w gwneud yn ofynnol i dystion gymryd llw neu gadarnhad.

 

</AI13>

<AI14>

6       Ymweliad â Siambr Hywel

Cynhaliodd y Pwyllgor Busnes ymweliad â Siambr Hywel i drafod trefniadau ymarferol i'w defnyddio fel siambr dros dro tra bydd gwaith yn cael ei wneud i ehangu Siambr y Senedd cyn etholiad y Senedd yn 2026.

 

 

</AI14>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>